Enillodd Matthew Stevens 11 ffrâm yn olynol i sicrhau buddugoliaeth 13-5 yn erbyn ei gyd-gymro Ryan Day yn y rowndiau chwarteri yn y Crucible.

Bydd Stevens yn wynebu Neil Robertson neu Ronnie O’Sullivan yn y rownd gynderfynol ddydd Iau.

Er y fuddugoliaeth i Stevens, mae’n cyfaddef bod y ddau wedi ei chael yn anodd chwarae ar eu gorau.

‘‘Roedd neithiwr yn rhyfedd iawn.  Roedd y ddau ohonom yn ei chael hi’n anodd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd i ddweud y gwir,’’ meddai Stevens.

Hefyd cyfaddefodd Day bod ei berfformiad wedi mynd yn draed moch ac wedi rhoi’r fuddugoliaeth i Stevens.

‘‘Yn y sesiwn gyntaf roeddwn yn hapus yn y ffordd yr oeddwn yn chwarae, ond neithiwr roeddwn yn hynod o siomedig gyda’m perfformiad,’’ meddai Day.

Ar y funud, 5-6 yw’r sgôr rhwng Roberston ac O’Sullivan.