Mae’r Cymry  Ryan Day a Matthew Stevens yn chwarae yn erbyn ei gilydd am le yn rownd gyn-derfynol pencampwriaeth snwcer y byd yn Sheffield.

Neithiwr cipiodd Cymro arall, Jamie Jones, le yn yr wyth olaf wrth iddo guro Andrew Higginson 13-10.

Roedd y chwaraewr 24 oed o Gimla ger Castell Nedd wedi bod yn arwain 10-6 ond brwydrodd Higginson yn ôl i 10-10 cyn i Jones gipio’r tair ffrâm nesaf i ennill.

Bydd Jamie Jones yn cwrdd â Sais arall, Ali Carter, y prynhawn yma am le yn y rownd gyn-derfynol.