Georgia Davies, ar y dde
Llwyddodd dau nofiwr o Gymru i gael lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd diolch i berfformaidau cryf yn y treialon Olympaidd ddydd Llun.

Cipiodd Georgia Davies o Abertawe yr ail safle yn y ras 100 medr dull cefn, a thra bod amser Ieuan Lloyd o Benarth fymryn y tu allan i’r amser cymwys ar gyfer y ras 200 medr dull rhydd, roedd yn ddigon da iddo gael lle yn nhîm y ras gyfnewid.

Roedd gan Georgia Davies amheuon a allai hi oresgyn bygythiad Gemma Spofforth, sy’n dal record y byd, a Lizzie Simmonds.

“Sai’n mynd i ddweud celwydd, ro’n i’n intimidated gan y ddwy” meddai Georgia Davies sy’n ymarfer yn y pwll cenedlaethol yn Abertawe.

“Defnyddiais i hynna mewn ffordd bositif achos dywedais i wrth fy hun, os dwi’n drydydd tu ôl y merched yma yna bydda i’n uchel ar restr detholion y byd”.