Nathan Cleverly
Ar ôl amddiffyn ei wregys is-drwm y byd nos Sadwrn, mae’n bosib bydd Nathan Cleverly’n teithio i Lundain i ymladd yn Neuadd Albert ar 28 Ebrill.

Mae hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren, wedi archebu’r neuadd ar gyfer y noson honno ac yn gobeithio cynnal yr ornest focsio gyntaf yn Neuadd Albert y mileniwm hwn.

Ar yr un noson bydd dau Americanwr, Bernard Hopkins a Chad Dawson, yn cwrdd ar gyfer gwregys WBC is-drwm y byd gyda’r enillydd yn debygol o gwrdd â Cleverly, sy’n dal gwregys y WBO.

Mae Bernard Hopkins, ‘Y Dienyddiwr’, bellach yn 47 a bydd dilynwyr bocsio Cymru yn ei gofio ar ôl gornest gofiafwy yn erbyn Joe Calzaghe yn 2008.

Calzaghe enillodd honno ar bwyntiau, ac roedd Hopkins yn chwerw ar ôl y canlyniad a bydd yn edrych ymlaen at geisio dial ar Gymro arall cyn gorffen ei yrfa hir.