Nathan Cleverly
ydd Nathan Cleverly yn amddiffyn gwregys bocsio is-drwm y byd nos Sadwrn, ac mae Joe Calzaghe yn disgwyl pethau mawr gan ei gyfaill.

‘‘Mae’n gyfle mawr i Nathan.  Mae wedi bod yn broffesiynol yn ei yrfa, ac mae wedi gwneud yn dda iawn wrth focsio ac i barhau a’i record o heb golli gornest eto,’’ meddai Calzaghe.

‘‘Ond bellach, mae wedi dod adref ac mae’n hanfodol iddo roi perfformiad wych er mwyn dweud diolch i bobol Cymru.  Pe bai’n rhoi perfformiad gwerth chweil a’r awyrgylch yn drydannol, byddai Nathan yn hawlio sylw llawer o bobl.  Byddai Frank Warren yn siwr o drefnu gornestau mawr yng Nghymru, ac mae gan Nathan gyfle gwych i neud hynny,’’ ychwanegodd.

Bydd Calzaghe yn bresennol nos Sadwrn i gefnogi ei ffrind ac yn cyfaddef y bydd yn ysgogi atgofion cryf.  Ac mae’n bendant, pe bai Cleverly yn ennill, y bydd y fuddugoliaeth yn lles i  ddydfodol Cymru ym myd  bocsio.

‘‘Cefais llawer o nosweithiau da yng Nghaerdydd.  Roedd brwydro yn erbyn Byron Mitchell a Charles Brewer yn anodd ond roedd cael cefnogaeth gref y gynulleidfa yn annhygoel ac o gymorth mawr i mi,’’ dywedodd Cleverly.