Nathan Cleverly
Bydd y Cymro Nathan Cleverly yn amddiffyn gwregys bocsio is-drwm y byd nos Sadwrn, gan obeithio adfer enw da’r gamp.

Bydd Cleverly, o Gefn Fforest,  yn paffio yn erbyn yr Americanwr Tommy Karpency yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd, lai nag wythnos wedi i  sgarmes answyddogol rhwng y bocswyr pwysau trwm Dereck Chisora a David Haye mewn cynhadledd i’r wasg ddwyn anfri ar y gamp.

Dywed Cleverly: “Bydd pobl yn disgwyl i fi osod esiampl. Mae gen i siawns i wneud hynny, i ymddwyn yn broffesiynol a gwneud fy siarad o fewn y cylch bocsio ac nid y tu allan.”

Ymchwiliad i’r sgarmes

Mae’r awdurdodau bocsio yn ymchwilio i’r sgarmes yn y gynhadledd i’r wasg fore Sul a ddilynodd yr ornest rhwng Vitali Klitshko a Dereck Chisora, a enillwyd gan Klitshko. Bu helynt cyn yr ornest hefyd, gyda Chisora’n rhoi clipsen i Klitshko yn y cyfarfod pwyso ac yn poeri dwr i wyneb brawd iau Klitshko, Vladimir, yn y cylch cyn i’r ornest ddechrau.

Mae Nathan Cleverly yn un o ddau bencampwr byd o wledydd Prydain ar hyn o bryd, a bu ef ei hun mewn ffrae â’i wrthwynebydd mewn cynhadledd i’r wasg cyn ei ornest ddiwethaf.

Ynghylch yr ymdaro rhyngddo ef a Tony Bellew o Lerpwl, meddai Cleverly: “Fe fuon ni’n corddi’n gilydd a fe boethodd pethau, ond fe gadwon ni’r cyfan dan reolaeth. Mae’n hawdd iawn cael dy dynnu mewn i sgarmes ond fydd hynny ddim yn digwydd tro yma yn erbyn Karpency.”

Y ffeit hon fydd y tro cyntaf i Cleverly amddiffyn ei wregys is-drwm yng Nghymru, a bydd cyn-Miss Cymru, Courtenay Hamilton, yno i ganu Hen Wlad fy Nhadau cyn yr ornest.