Mae hyfforddwr David Haye wedi datgan fod dim diddordeb gan y cyn-focsiwr i ymladd Dereck Chisora.

Dywedodd Adam Booth fod Haye am ymladd Vitali neu Wladimir Klitschko, ond mae’n debyg does dim diddordeb gan y ddau yma yn Haye rhagor.

Mae’r datganiad yn dilyn ffrae annisgwyl rhwng Haye a Chisora mewn cynhadledd i’r wasg yn Munich. Roedd Haye wedi dyrnu Chisora tra’n dal potel, a hefyd wedi taflu tripod at Don Charles, hyfforddwr Chisora.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio a tynnwyd lluniau gan y llu o ffotograffwyr oedd yna ar gyfer y gynhadledd.

Cafwyd rhai honiadau bod y ffrae  yn fwriadol er mwyn hybu brwydr rhwng y ddau ar y sgwâr bocsio yn y dyfodol. Mae hyfforddwr Haye wedi gwadu’r syniad yma.

Roedd Vitali Klitschko i’w weld yn ddigon hapus wrth eistedd yn ôl yn gwylio’r ffrae yn datblygu. Enillodd Klitschko ei ornest yn erbyn Dereck Chisora nos Sadwrn.

Chisora i wynebu’r stiwardiaid

Cafodd Dereck Chisora ei arestio gan heddlu Munich a’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad yn dilyn y ffrae. Roedd Haye, fodd bynnag, wedi diflannu o’i westy, ac mae e nawr yn ôl ym Mhrydain.

“Rwy’n teimlo bod yn rhaid i fi ymddiheuro yn ddiffuant,” dywedodd Chisora mewn datganiad.

“Tra roedd fy ymddygiad yn annerbyniol, roedd yna nifer o bethau’n digwydd tu ôl i’r llenni oedd wedi achosi fy nheimladau i ferwi drosodd,” ychwanegodd Chisora. “Fodd bynnag dyw hyn ddim, wrth gwrs, yn esgus.”

Mae Robert Smith, ysgrifennydd y BBBC wedi cadarnhau y bydd Dereck Chisora yn wynebu stiwardiaid ar Fawrth 14.

Heddlu am siarad gyda Haye heddiw

Cyhoeddodd Heddlu Munich heddiw eu bod nhw dal am holi  David Haye ynglŷn â’r achos.

Dywedodd Haye y byddai’n cydweithio gyda’r awdurdodau.

“Rwy’n sylwi mod i ddim yn angel,” dywedodd Haye. “Ond yn ystod fy 21 mlynedd yn y gamp, dwi erioed wedi bod yn rhan o, neu hyd yn oed wedi gweld, y fath ffrae ddifrifol.”

Ni all y BBBC gosbi David Haye yn ffurfiol, gan nad oes ganddo drwydded bocsio ar hyn o bryd.