Ding Junhui oedd arwr y dorf wrth iddo gipio Pencampwriaeth Agored Cymru.

Mark Selby yw’r gorau yn y byd, yn ôl y rhestr swyddogol, ond doedd ddim ateb gan y ‘Jester o Leicester’ i snwcer meistrolgar y gŵr o Tseina.

9-6 oedd y sgôr terfynol, wrth i Ding reoli’r gêm yn y fframiau olaf, yn dilyn dechreuad digon sigledig.

Selby oedd wedi bod yn gyfrifol am guro Ronnie O’Sullivan, gan chwarae ar nerfau’r Roced yn y rownd gynt i gyrraedd y rownd derfynol.

Cyrhaeddodd Ding y rownd gyn derfynol ym Mhencampwriaeth y Byd llynedd, a bydd yn gobeithio fod ei fuddugoliaeth yn argoeli’n dda ar gyfer y gystadleuaeth honno.

“Bydda’i yn ymarfer yn galed iawn,” dywedodd Ding Junhui. “Fe es i hyd at y rownd gyn derfynol y llynedd, ac rwy’n gobeithio gwneud yn well eleni.”

Bydd Pencampwriaeth y Byd yn cael ei gynnal yn y Crucible yn Sheffield yn y gwanwyn.

Ding o Wlad y Ddraig

Dyma oedd pencampwriaeth restredig cyntaf Ding o’r tymor, yn dilyn tymor go ddiflas, ac roedd y dorf yng Nghanolfan Casnewydd wrth eu boddau gyda’r canlyniad.

Roedd canran amlwg o’r dorf o dras Tseineaidd, yn ymfalchïo bod eu harwr wedi curo rhai o oreuon y byd i ennill ei wobr o £30,000.

Dechreuodd Selby gyda dwy ganrif yn y tair ffrâm gyntaf, yn sgorio 103 a 124 i fynd 2-1 ar y blaen.

Cafodd Selby’r cyfle i fynd 3-1 ar y blaen, wedi i Ding fethu’r binc, ond er i Selby potio honno, methodd yntau gyda’r ddu.

Gwynt newydd i hwyliau Ding

Wedi hynny daeth gwynt newydd i hwyliau Ding, wrth iddo garlamu 5-3 ar y blaen.

Sgoriodd Ding ei ganrif gyntaf gyda 124 i gymryd y sgôr i 7-5, ac yna 130 i’w gymryd e 8-5 ar y blaen.

Ymateb Selby oedd brêc o 145 i gipio’r wobr o £1,000 am frêc uchaf y bencampwriaeth.

Ond roedd Selby wedi chwythu ei blwc, ac yn dilyn ffrâm olaf llawn tensiwn, enillodd Ding ei bumed bencampwriaeth restredig.

“Methais i ormod o’r peli,” dywedodd Selby mewn cyfweliad ar British Eurosport yn dilyn y gêm. “Ges i gyfleoedd ond pob mawl i Ding – mae’n haeddu e.”

Ac mewn un siom fach ychwanegol i Mark Selby, roedd ei falchder dros ennill brêc ucha’r bencampwriaeth wedi suro ychydig pan gafodd y newyddion.

“O’n i wrth fy modd, a dywedodd rhywun mai £1,000 oedd e – o’n i wedi disgwyl iddo fe fod tua £10,000.

Siom i’r Cymry eto

Roedd ymateb y dorf gyfan i fuddugoliaeth Jing yn olygfa hwylus iawn, gyda’r sylwebydd Darren Morgan yn dweud ei fod e heb weld unrhyw beth tebyg yn ei amser ef yn snwcer.

Roedd hyn i’w ganmol, yn dilyn siom y dorf yng Nghasnewydd fod y Cymry wedi methu’n gynnar eto eleni.

Mark Williams yw’r unig Gymro i ennill Pencampwriaeth Agored Cymru, a’r tro olaf iddo fe ennill oedd 1999.

Cafodd ei guro’n weddol hawdd gan Ronnie O’Sullivan yn yr ail rownd, yn dilyn perfformiad siomedig yn y rownd gyntaf hefyd.

Collodd Matthew Stevens yn y rownd gyntaf, a chollodd Ryan Day a Dominic Dale yn y rowndiau cymhwyso.