Mae Ronnie O’Sullivan wedi curo Mark Williams, a’i guro’n dda ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru heddiw.
Sgoriodd y gŵr o Lundain 125 a 96 ar ei ffordd i’r fuddugoliaeth yng Nghasnewydd.
Roedd Williams wedi ymateb gyda sgôr o 133 yn yr ail ffrâm, ond roedd Ronnie O’Sullivan ar dân.
Diwedd y gân i’r Cymry
Roedd dau Gymro ar ôl yn y bencampwriaeth cyn i’r cystadlu gychwyn heddiw.
Yn anffodus, collodd Matthew Stevens heddiw hefyd, 4-2 yn erbyn Stephen Maguire o’r Alban,.
Bydd rhaid felly aros o leiaf blwyddyn arall i gael enw enillydd Cymreig ar y gwpan – Mark Williams oedd y Cymro diwethaf i gipio’r wobr yn 1999.
Ronnie’n ffefryn
“Dechreuais i’n dda,” dywedodd O’Sullivan yn dilyn y gêm. “Ambell waith mae’n anodd sgorio canrif trwy’r amser. Ond heddiw roedd y peli’n rhedeg yn iawn i mi.
“Chwarae teg i Mark, wnaeth e ddim chwarae ar ei orau ond mae e wedi cael tymor arbennig. Dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf mae e wedi bod mor gyson, ac mae’n dda i mi gael buddugoliaeth drosto, yn enwedig o ystyried y ddwy flynedd dwi ‘di cael.”
Enillodd Ronnie O’Sullivan bencampwriaeth Meistri’r Almaen yn gynharach y mis yma, ond honno oedd ei deitl cyntaf o werth ers Meistri Shanghai yn 2009.
Bydd y Roced nawr yn chwarae Stuart Bingham neu Judd Trump yn y drydedd rownd.
Ronnie O’Sullivan yw’r ffefryn i ennill y gystadleuaeth yng Nghanolfan Casnewydd, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chwarae dydd Sul.