Yn y Bencampwriaeth Snwcer yng Nghasnewydd fe lwyddodd Ronnie O’Sullivan – y Roced – i guro Marco Fu i sicrhau gêm ail rownd yn erbyn Mark Williams.

Enillodd y Roced 4-1.

Bydd Mark Williams a Ronnie O’Sullivan yn chwarae yng Nghanolfan Casnewydd am 1pm yfory, yn y gêm roedd cefnogwyr snwcer Cymru wedi gobeithio ei gweld.

“Mae Mark a fi wedi nabod ein gilydd ers ein bod ni’n 8 neu 9,” dywedodd O’Sullivan yn dilyn ei fuddugoliaeth. “Ni wedi cael cwpwl o gemau gwych ac mae gennym ni barch mawr at ein gilydd.”

Ronnie O’Sullivan yw’r ffefryn i gipio’r teitl, gydag un cwmni betio blaengar yn cynnig 5/1 ar y Roced. Judd Trump yw’r ail ffefryn ar 11/2.

Mae Mark Williams yn 9/1 i ennill y bencampwriaeth, a Matthew Stevens, sydd wrthi heddiw, yn 16/1.

Tri chynnig i Gymro

Mae Ronnie O’Sullivan a Mark Williams wedi ennill Pencampwriaeth Agored Cymru ddwywaith yr un.

Mark Williams yw’r unig Gymro i ennill y bencampwriaeth. Mae hi’n 13 mlynedd ers iddo gipio’r goron yn 1999.

Enillodd Mark Williams 4-3 yn erbyn Andy Hicks o Loegr yn y rownd gyntaf, ond doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gyffyrddus i’r potiwr o Cwm.

Roedd e ar ei hôl hi ar dri achlysur ddoe, ond enillodd y ddwy ffrâm olaf i “ddianc o’r carchar,” yng ngeiriau Mark Williams.

“Rwy’n gobeithio mod i’n chwarae Ronnie nesaf achos base hi’n achlysur anferth gyda thorf fawr,” dywedodd Mark Williams ar ôl y gêm.

“Dyna’r fath o gêm rwy’n mwynhau ei chwarae. Ond y ffordd oeddwn i’n chwarae heddiw, gallwn i ddim maeddu Gilbert O’Sullivan.”

Pencampwyr y gorffennol yn disgleirio

Yn dilyn buddugoliaeth Steve Davis yn y rownd gyntaf, mae Stephen Hendry hefyd wedi profi fod y chwaraewyr hŷn yn gallu rhoi gêm i’r to newydd.

Enillodd Hendry 4-1 yn erbyn Neil Robertson o Awstralia.

“Wow, perfformiad gwych gan Hendry i faeddu fi,” dywedodd Neil Robertson ar Twitter. “Dyna’r  Hendry o’r hen ddyddiau, yn anffodus i fi.”