Mae Mark Williams wedi cyrraedd yr ail rownd ym Mhencampwriaeth Agored Snwcer Cymru yng Nghasnewydd.

Enillodd y gŵr o Cwm 4-3 yn erbyn Andy Hicks o Loegr.

Bydd yn chwarae’r gêm ail rownd ar brynhawn Iau yn erbyn Ronnie ‘Y Roced’ O’Sullivan neu Marco Fu. Mae’r ddau yma’n chwarae yn y rownd gyntaf yfory.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Casnewydd.

Steve Davis yn cyfri’r canrifoedd

Er mai Steve Davis, 54, yw’r chwaraewr hynaf yn y gystadleuaeth o bell ffordd, fe gurodd e Ali Carter 4-3.

Sgoriodd Davis dwy ganrif, 121 ac 117,  ar ei ffordd i’r fuddugoliaeth yn erbyn y trydydd ffefryn ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae Steve Davis wedi ennill pencampwriaeth y byd ar chwe achlysur.

Hanes y Cymry eraill

Bydd Matthew Stevens yn chwarae yng ngêm olaf y rownd gyntaf nos yfory, yn erbyn Barry Hawkins o Loegr.

Collodd Ryan Day 4-0 yn ei gêm gymhwyso ddoe yn erbyn Michael Holt o Loegr.

Collodd Dominic Dale 4-2 yn erbyn Sam Baird, hefyd yn y rowndiau cymhwyso.

O leiaf mae hyn yn ei adael e’n rhydd i fynd yn ôl i’r bocs sylwebu am weddill y gystadleuaeth.

Canlyniadau heddiw

Stephen Lee (Lloegr) 4-1 Michael Holt (Lloegr)

Mark Williams (Cymru) 4-3 Andy Hicks (Cymru)

Neil Robertson (Awstralia) 1-4 Stephen Hendry (Alban)

Stuart Bingham (Lloegr) 3-1 Mark King (Lloegr)

Gemau heno

Martin Gould (Lloegr) v Peter Ebdon (Lloegr)

Mark Selby (Lloegr) v Sam Baird (Lloegr)

Canlyniadau Dydd Llun

Ding Junhui (Tseina) 4-0 Mark Davis (Lloegr)

Allister Carter (Lloegr) 3-4 Steve Davis (Lloegr)

Judd Trump (Lloegr) 4-0 Fergal O’Brien (Iwerddon)

Shaun Murphy (Lloegr) 4-2 Mark Joyce (Lloegr)

Graeme Dott (Alban) 2-4 Tom Ford (Lloegr)

John Higgins (Alban) 4-1 Liang Wenbo (Tseina)

Gemau’r rownd gyntaf ddydd Mercher

Mark Allen (Gogledd Iwerddon) v Ken Doherty (Iwerddon)

Ronnie O’Sullivan (Lloegr) v Marco Fu (Hong Kong)

Stephen Maguire (Alban) v Adam Wicheard (Lloegr)

Matthew Stevens (Cymru) v Barry Hawkins (Lloegr)

Gemau ail rownd ddydd Mercher

John Higgins (Alban) v Ding Junhui (Tseina)

Shaun Murphy (Lloegr) v Steve Davis (Lloegr)

Gemau ail rownd dydd Iau

Mark Williams (Cymru) v Ronnie O’Sullivan neu Marco Fu

Mark Allen neu Ken Doherty v Stephen Hendry (Alban)

Stephen Maguire neu Adam Wicheard v Matthew Stevens neu Barry Hawkins

Stuart Bingham neu Mark King v Judd Trump (Lloegr)

Martin Gould neu Peter Ebdon v Mark Selby neu Sam Baird