Bydd mawrion y byd snwcer yng Nghasnewydd heddiw, ar gyfer rownd gyntaf Pencampwriaeth Agored Cymru.

Canolfan Casnewydd yw’r lleoliad ar gyfer y bencampwriaeth a fydd yn parhau tan ddydd Sul, Chwefror 19.

Bydd y rownd derfynol yn cychwyn am 7pm nos Sul, gyda’r ddau olaf yn y bencampwriaeth yn chwarae uchafswm o naw ffrâm.

Gobaith i Gymru

Go ddiflas yw hanes y Cymry yn y bencampwriaeth. Er i Mark Williams guro Stephen Hendry i gipio’r wobr yn 1999, does dim un Cymro wedi ennill ers hynny. Enillodd Williams hefyd yn 1996.

Ac er i bedwar brêc 147 cael eu cyflawni yn hanes y bencampwriaeth, does na’r un Cymro wedi llwyddo i botio’r brêc uchafswm yn y gystadleuaeth.

Ond yn dilyn adfywiad diweddar Mark Williams, bydd yna obaith i Gymro ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf y ganrif yma.

Collodd y Cymro Ryan Day yn y gêm agoriadol yn erbyn Michael Holt, gyda’r sgôr yn 4-0.

Mae Dominic Dale yn chwarae heno, a Mark Williams yn cystadlu bore fory.

Bydd Matthew Stevens yn chwarae yn erbyn Barry Hawkins yn y rownd gyntaf ar ddydd Mercher.

Cyn bencampwyr y byd yn ennill eu ffordd

Bydd Steve Davis yn ôl eto, ar ôl ennill ei gem gymhwyso yn erbyn Rick Walden. Mae’n chwarae Ali Carter ar hyn o bryd, ar Fwrdd 1. Davis yw hen ddyn y gystadleuaeth, yn 54 mlwydd oed.

Mae’r Albanwr  Stephen Hendry a’r Gwyddel  Ken Doherty hefyd wedi gorfod ennill eu ffordd i’r brif gystadleuaeth.  Bydd Hendry yn chwarae pencampwr y Masters Neil Robertson yfory.

Mark Allen fydd yn wynebu Doherty yn y rownd gyntaf yng Nghasnewydd.

Mae’r 16 chwaraewr gorau yn y byd yn cael chwarae yn y gystadleuaeth, tra bod y gweddill yn cystadlu er mwyn ennill un o’r llefydd ychwanegol yn y gystadleuaeth.

John Higgins sydd wedi ennill y ddwy bencampwriaeth fwyaf diweddar.

Ding ar frys

Mae’r gŵr o Tseina, Ding Junhui, wedi cyrraedd y rownd nesaf yn barod, wedi iddo drechu Mark Davis 4-0 yn y rownd gyntaf y prynhawn yma.

Fydd Ding nawr yn wynebu Liang Wenbo o Tseina neu’r pencampwr John Higgins yn yr ail rownd.