Joe Thomas (Llun: PA)
Y rhedwr 800m Joe Thomas oedd y Cymro a greodd fwyaf o argraff ym Mhencampwriaethau Athletau dan-do Prydeinig Aviva yn Sheffield dros y penwythnos.

Cipiodd y Cymro ifanc y fedal aur yn ei ras gydag amser o 1:47:26 ddydd Sul.

Wrth wneud hynny mae mwy neu lai wedi sicrhau lle i’w hun ym Mhencampwriaethau dan-do y Byd yn Nhwrci fis nesaf ar ôl rhedeg yn gynt na’r amser rhagbrofol o 1:48:00  am y pedwerydd tro eleni.

“Ennill oedd y peth pwysig heddiw” meddai Thomas ar ôl y ras.

“Nes i redeg y 200m cyntaf yn araf iawn, ac anghofio’n llwyr am yr amser. Do’n i ddim wedi sylweddoli pa mor gyflym ro’n i’n rhedeg tan i mi ddod at gymal olaf y ras.”

“Mae’r cysondeb yna am wn i a dyma’n prif beth.”

Peth llwyddiant Cymreig

Ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu roedd Ryan Spencer Davies wedi cipio’r fedal Gymreig gyntaf wrth daflu’r belen drom.

Roedd ei bellter o 17:22 yn ddigon i sicrhau’r fedal efydd.

Ddydd Sadwrn hefyd roedd Stephen Davies wedi rhedeg y 3000m mewn llai nag wyth munud i ennill y fedal arian,

Daeth Sally Peake yn drydydd yn y naid bolyn gan neidio 4:27, tra bod Charlotte Arter wedi cipio’r fedal arian yn y 1500m gydag amser o 4:24.