Alberto Contador (CCA 2.0)
Mae Alberto Contador wedi colli teitl enillydd Tour de France 2010 a’i wahardd o’r gystadleuaeth am ddwy flynedd.

Penderfynodd Llys Cyflafareddu Chwaraeon (CAS) bod y Sbaenwr yn euog o gymryd y cyffur clenbuterol yn ystod ras 2010.

Mae hynny’n golygu y bydd Andy Schleck, oedd yn ail i Contador o ddim ond 39 eiliad fydd yn cael ei enwi’n bencampwr newydd.

Mae llawer o’r farn mai Schleck ddylai fod wedi ennill y ras yn 2010 beth bynnag gan i Contador fethu aros amdano ar gymal 15 wedi i gadwyn y gŵr o Lwcsembwrg ddod yn rhydd.

Mae’r gwaharddiad yn golygu na fydd modd i Contador gystadlu yn y Tour de France eleni, na chwaith yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Pan enillodd Contador y Tour de France yn 2010, dyma oedd ei drydedd fuddugoliaeth yn y ras eiconig.

Mae’r penderfyniad heddiw’n golygu ei fod yn colli’r teitl a phob canlyniad arall yn ystod 2011, gan gynnwys buddugoliaeth yn y Giro d’Italia y flwyddyn honno.

Bydd y gwaharddiad dwy flynedd yn cael ei ôl-ddyddio, gan olygu y bydd yn rhydd i gystadlu eto ar 6 Awst 2012.