Mae’r cyn-bencampwr rasio ceir Kimi Raikonnen wedi anafu ei law mewn damwain car eira.

Ond mae’n debyg nad yw’r anaf yn un difrifol a bydd yn dychwelyd i rasio i dîm Fformiwla 1 Lotus y flwyddyn nesaf.

Tydi’r gyrrwr o’r Ffindir ddim wedi bod yn rhan o’r rasys Fformiwla 1 ers dwy flynedd gan ei fod wedi bod yn canolbwyntio ar bencampwriaeth ralїo’r byd.

Mae pennaeth y tîm Lotus, Eric Bouliier  wedi dweud mai’r  nod yn awr yw ennill y bencampwriaeth Fformiwla 1 “mewn dwy neu dair blynedd.”

Mae’r tîm wedi trydar i ddweud bod Raikkonen wedi anafu ei arddwrn yn y ddamwain, ond doedd dim i boeni amdano.

Mae Raikkonen wedi rasio gyda thimau Sauber, McLaren a Ferrari yn ystod ei yrfa Fformiwla 1 ac wedi ennill y bencampwriaeth unwaith.