Gareth Evans (Llun Cyngor Sir Ynys Môn)

Neithiwr, cipiodd Gareth Evans o Gaergybi wobr ‘Person Chwaraeon y Flwyddyn’ yng ngwobrau chwaraeon Ynys Môn.

Mae Evans yn godwr pwysau lefel elitaidd uwch, sydd wedi cystadlu ers deng mlynedd bellach.

Fe yw pencampwr presennol Prydain yn ei ddosbarth pwysau, ac mae ar y ffordd i sicrhau lle  i gystadlu yng Ngemau’r Olympaidd Llundain yn 2012.

Roedd Gareth Evans yn beintiwr ac addurnwr wrth ei alwedigaeth ond fe roddodd y gorau i’w swydd er mwyn canolbwyntio ac ymroi’n llawn amser i godi pwysau.  Mae’n byw ac yn hyfforddi ar hyn o bryd yn y Ganolfan Perfformiad Uwch Cenedlaethol yn Leeds.

Llynedd, fe enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau’r Gymanwlad yn Ne Affrica ym mis Hydref ac mae wedi cipio nifer o deitlau codi pwysau Rhanbarthol, Cenedlaethol a Rhyngwladol.

Dathlu llwyddiant

Cadeirydd Cyngor Sir Fôn, y Cynghorydd Gwilym O Jones gyflwynodd y wobr i Gareth Evans neithiwr

‘‘Dymunwn bob llwyddiant i Gareth y flwyddyn nesaf pan fydd disgwyl iddo gynrychioli Ynys Môn wrth gystadlu yn y Gemau Olympaidd – uchafbwynt gyrfa chwaraeon unrhyw athletwr,’’ meddai Gwilym O Jones.

‘‘Roedd yn bleser unwaith eto cael cydnabod a dathlu llwyddiannau ac ymroddiad cymuned chwaraeon Môn.  Hoffwn ddymuno’n dda i bob un ohonynt a’u gweld yn ffynnu yn y dyfodol’’ ychwanegodd.

Yn ystod y seremoni cyflwynwyd gwobrau chwaraeon eraill yn Siambr y Cyngor Sir, Llangefni, i’r canlynol:

●     Connor Laverty (Bachgen y Flwyddyn)

●     Cari Llyr Hughes (Merch y Flwyddyn)

●     Tîm Hwylio Ynys Môn (Tîm  y Flwyddyn)

●     Liz Williams (Gwirfoddolwr y Flwyddyn  – Cyd-Enillydd)

●     Darren Owen (Gwirfoddolwr y Flwyddyn  – Cyd-Enillydd)

●     Sacha Jones (Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn)