Nathan Cleverly
Mae Joe Calzaghe wedi dweud ei fod yn credu y bydd Nathan Cleverly yn cipio coron is-drwm y byd yn 2011.

Mae disgwyl i Cleverly herio’r pencampwr Juergen Braehmer yn ystod y misoedd nesaf ar ôl i WBO orfodi’r Almaenwr i drefnu gornest gyda’r Cymro.

Daeth gyrfa Calzaghe i ben yn 2009 ar ôl 46 gornest lwyddiannus

Dywedodd ei fod wedi gwylio gyrfa Cleverly o’r dechrau, ar ôl ymarfer gyda’r bocsiwr ifanc ar ddechrau ei yrfa.

Roedd Cleverly hefyd yn ymladd yn Las Vegas pan gurodd Calzaghe Bernard Hopkins ac yn Stadiwm y Mileniwm pan gurodd Calzaghe Mikkel Kessler.

Graddiodd Nathan Cleverly o Brifysgol Caerdydd y llynedd ac fe enillodd coron interim is-drwm WBO yn erbyn Nadjib Mohammedi fis diwethaf.

“Dw i’n credu y bydd yn ennill coron y byd pan fydd yn cael y cyfle i fynd amdani,” meddai Joe Calzaghe.

“Mae’n help ei fod wedi cael y profiad o focsio ar rai o lwyfannau mwyaf y byd, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm a Las Vegas.

“Rydw i’n gwybod y bydd Nathan yn gallu ymdopi â herio am goron y byd am ei fod e eisoes wedi rhannu’r cylch bocsio gyda’r gorau.”