Anthony Hughes gyda Huw Lewis ©Steve Pope
Yn noson wobrwyo Chwaraeon Cymru, cafodd Anthony Hughes o Benarth ei enwi yn Hyfforddwr y Flwyddyn Pobl Anabl y Byd Chwaraeon yn ogystal a’r teitl cyffredinol o ‘Hyfforddwr y Flwyddyn’.

Yn ei rôl fel hyfforddwr chwaraeon anabledd Cymru mae Anthony Hughes wedi cael blwyddyn hynod lwyddiannus yn 2011. Ym mis Ionawr eleni, fe gyfrannodd athletwyr Cymru i 18% o gasgliad Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Athletau Hŷn y Byd a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Seland Newydd.

Yn ogystal â hyfforddi sêr ifanc i fedalau yn Seland Newydd, fe gynorthwyodd Nathan Stephens i dorri’r record byd yng nghystadleuaeth y waywffon ym Mhencampwriaeth Agored y Weriniaeth Tsiec, gan gofnodi pellter o 41.37m.

Derbyniodd Gwyndaf Hughes gydnabyddiaeth arbennig am ei waith gwirfoddol â chlwb hwylio Pwllheli. Y llynedd enillodd gymhwyster Uwch Hyfforddwr y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, yn 71 oed.

Cafodd Stuart Conner gydnabyddiaeth arbennig hefyd, am ei waith gyda chlwb gymnasteg Abertyleri. Bu’n cyfrannu 20 awr yr wythnos yn wirfoddol i’w glwb am y deugain mlynedd ddiwethaf. Ac er bod y clwb yn uno gydag Academi Gymnasteg y Cymoedd, mae wedi bod yn flaengar i hwyluso’r broses yno.

Roedd yna wobrau am Hyfforddwr Perfformiad Uchel y Flwyddyn a aeth i Malcom Arnold, hyfforddwr y pencampwr byd ym maes y clwydi, Dai Greene.

Gwobrwywyd Stuart Robson am ei waith gwirfoddol am ei wasanaeth i bêl droed merched yng Nghaerffili a chipiodd Steven Thomas o Sir y Fflint deitl Hyfforddwr/ Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn am ei waith yn cael ieuenctid i ymwneud â Llundain 2012.

Am ei gwaith gyda Chlwb Athletau Amatur Caerdydd, derbyniodd Helen James y teitl Hyfforddwraig y Flwyddyn. Tony Borg o Glwb Bocsio Amatur St Joseph yng Nghasnewydd gipiodd gwobr y dynion.