Mae Jonny Clayton wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Gartre’r PDC.

Enillodd e bob un o’i gemau grŵp wrth i chwaraewyr gystadlu yn erbyn ei gilydd yn eu cartrefi eu hunain.

Roedd gan y Cymro, sy’n bymthegfed ar restr detholion y byd, gyfartaledd tri dart o 100 wrth guro Scott Waites o 6-3.

Curodd e Max Hopp o’r un sgôr cyn trechu Carl Wilkinson o 6-2, gan ennill pedair gêm o’r bron yn yr ail gêm a chipio’r ornest mewn 12 dart gyda sgôr o 121 i fynd â hi.

“Buddugoliaeth yw buddugoliaeth,” meddai ar ddiwedd y noson.

“Yn amlwg, dw i’n hapus i ennill tair gêm. Dw i’n ddyn hapus.”