Fe fydd Jay Harris o Abertawe’n paffio am deitl pwysau pryf y byd heno (nos Sadwrn, Chwefror 29), wrth iddo ymladd yn erbyn Julio Cesar Martinez, pencampwr pwysau pryf WBC y byd, yn nhalaith Tecsas.

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ar safle ymarfer tîm pêl-droed Americanaidd y Dallas Cowboys.

Pe bai’n ennill, byddai’n ymuno â’i gyd-Gymry Jimmy Wilde a Robbie Regan wrth fod yn ddi-guro mewn 17 o ornestau, a’r ddau ohonyn nhw’n bencampwyr Ewropeaidd a phwysau pryf.

Ond mae’r Cymro’n cyfaddef y bu bron iddo roi’r gorau i’r gamp pan nad oedd e’n cael cynnig gornestau.

“Mae pobol yn gweld y gornestau mawr ond dydyn nhw ddim wir yn gweld yr ochr yna,” meddai’r gweithiwr ffatri sydd wedi’i gyflogi gan Amazon.

“Mae’r sioeau mewn neuaddau bychain yn waith caled.

“Rydych chi allan bob dydd, yn ymarfer ddwywaith y dydd ac yna, mae’n rhaid i chi fynd ar y ffôn i bob Dic Siôn Dafydd yn gofyn iddyn nhw brynu tocynnau.

“Mae’n achosi cymaint o straeon, rydych chi’n teimlo fel pe baech chi’n pwyso ar bobol i brynu tocynnau, ac yna mae rhywun bob amser yn tynnu’n ôl.

“Ond mae angen i chi fod yn werthwr tocynnau da i gael bod yn rhan o’r sioeau gorau.

“Do’n i ddim yn gwneud hynny ar un adeg ac roedd yn fy ngyrru i o ’nghof.

“Ro’n i ar fin rhoi’r gorau iddi.”

Achub ar y cyfle

Ond mae’n ymddangos bod y gwaith wedi talu ar ei ganfed, ac yntau’n brwydro am wregys fawreddog y WBC.

“Mae’n eitha’ swreal cael brwydro am wregys fawreddog ym myd paffio, gwregys y WBC, ond nawr ’mod i wedi cael y cyfle hwn, dw i am ei gymryd e.

“Dw i’n gwybod nad fi yw’r ffefryn ond felly y bu hi bron iawn drwy gydol fy mywyd, a dw i wedi dod drwyddi i ennill.

“Mae’r holl bwysau ar Martinez i gadw ei wregys.”

Gyrfa hyd yn hyn

Daw Jay Harris o deulu paffio, a’i ewythr Mike wedi ennill teitlau Cymreig a’i dad Peter yn bencampwr pwysau plu Prydain yn y 1980au.

Ymunodd e â chlwb Gwent ABC yn Abertawe yn 12 oed, gan fynd yn ei flaen i ennill sawl teitl amatur, yn ogystal â medalau aur ac arian ym Mhencampwriaethau Prydain cyn troi’n broffesiynol yn 21 oed.

Cipiodd e deitl pwysau pryf y Gymanwlad yn 2017 ond ychydig iawn o lwyddiant gafodd e fel arall hyd nes iddo fe drechu Angel Moreno o Sbaen mewn gornest am deitl Ewropeaidd fis Mehefin y llynedd.

Curodd e Paddy Barnes ym mis Hydref er mwyn cael herio Julio Cesar Martinez.

“Fe wnaeth Moreno a Barnes frwydro am deitlau’r byd felly dw i’n gwybod fy mod i ar y lefel yna,” meddai.

“Mae Martinez yn bencampwr da sydd wedi paffio yn erbyn Andrew Selby a Charlie Edwards.

“Dyn bach yw e ac mae’n gweithio’r corff yn dda, ond dw i wedi atal llawer o fois gydag ergydion i’r corff.

“Mae’n mynd i fod yn ornest gyffrous oherwydd dw i’n credu y byddwn ni’n asio.”

Gornest yn y Liberty?

Fe allai buddugoliaeth heno hefyd arwain at ornest yn Stadiwm Liberty i’r dyn o Townhill sy’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed yr Elyrch.

Cafodd ei gyflwyno i’r dorf cyn gêm yr Elyrch yn erbyn Wigan yn ddiweddar, ac fe fydd e’n gwisgo bathodyn yr Elyrch ar ei siorts ar gyfer yr ornest.

“Byddai’n anhygoel cael ymladd yn Stadiwm Liberty,” meddai.

“Dw i wedi bod yn gwylio’r Elyrch ers dyddiau’r Vetch pan o’n i’n blentyn, roedd fy nhad yn arfer mynd â fi a ’mrawd i’r Eisteddle Deuluol.

“Fy mreuddwyd yw gwerthu allan yn y Liberty. Pwy a ŵyr, efallai y gallai ddigwydd os ydw i’n ennill yr ornest hon.”