Bydd Shaun Murphy a Kyren Wilson yn herio’i gilydd yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn Arena Motorpoint Caerdydd heno (nos Sul, Chwefror 16).

Fe wnaeth Shaun Murphy guro Yan Bingtao o 6-5 yn y rownd gyn-derfynol ddoe, tra bod Kyren Wilson wedi cipio buddugoliaeth annisgwyl o 6-5 dros Ronnie O’Sullivan.

Sgoriodd Shaun Murphy 109 yn y ffram olaf hollbwysig.

Dyma’r ail waith iddo gyrraedd y ffeinal, 14 o flynyddoedd ar ôl iddo golli o 9-4 yn erbyn Stephen Lee.

Roedd Kyren Wilson yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl i Ronnie O’Sullivan ar ôl cael ei guro yng nghystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr y llynedd a Meistri Shanghai yn gynharach y tymor hwn.

Bydd yr enillydd heno’n derbyn Tlws Ray Reardon.