Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton, y ddau Gymro olaf ym Meistri’r dartiau, allan o’r gystadleuaeth ar ddiwedd rownd yr wyth olaf.

Collodd Gerwyn Price o 10-2 yn erbyn yr Albanwr Gary Anderson, tra bod Jonny Clayton wedi colli o drwch blewyn o 10-8 yn erbyn y Sais Nathan Aspinall.

Sgoriodd Gary Anderson gyfartaledd o 102.4 gyda’i dri dart, gan sgorio 180 bum gwaith a llwyddo gyda deg allan o 16 o ymdrechion i fynd am ddwbwl.

Roedd Jonny Clayton ar y blaen o 9-5 yn erbyn Nathan Aspinall, ond fe darodd y Sais yn ôl i grafu buddugoliaeth ar ôl i’r Cymro golli ei afael ar yr ornest bum gêm yn olynol.