Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Kobe Bryant, un o’r chwaraewyr gorau yn hanes y byd pêl fasged, a fu farw mewn damwain hofrennydd fore Sadwrn (Ionawr 25).

Bu farw ei ferch 13 oed, Gianna, hefyd yn y digwyddiad yng Nghaliffornia.

Roedd naw o bobol yn yr hofrennydd i gyd, gan gynnwys y peilot, ac fe fu farw pob un ohonyn nhw.

Mae nifer o glybiau sydd wedi’u cofrestru gyda Chymdeithas Pêl Fasged Gogledd Cymru wedi bod yn talu teyrnged i’r chwaraewr dylanwadol o’r Unol Daleithiau heddiw (dydd Llun, Ionawr 27).

Celtiaid Caernarfon

Yn ôl Sion Owen, hyfforddwr tîm dan 18 Celtiaid Caernarfon, roedd Kobe Bryant yn “ffigwr chwedlonol.”

“Gweithio’n galed, peidio bod ofn, bod yn barod i fethu a’r parodrwydd i wella o’r methiant yna – dyna oedd Kobe yn sefyll am.”

Er nad yw pêl fasged yn cael yr un sylw a phêl-droed neu rygbi yng Nghymru, mae Sion Owen yn dweud ei fod wedi gweld twf sylweddol yn y nifer sy’n chwarae’r gêm yng Nghymru.

Yn ogystal â hyfforddi timau o bob oed mae Celtiaid Caernarfon bellach yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn ysgolion cynradd yr ardal.

“Er nad ydy’r rhan fwyaf o’r plant dwi’n hyfforddi yn ei gofio’n chwarae, mae ei ddylanwad ar y gêm yn enfawr – roedd Kobe yn ffigwr chwedlonol oedd yn fwy na’r gêm” meddai.

Celtiaid Ynys Môn

Dywedodd hyfforddwr tîm pêl fasged Celtiaid Ynys Môn, Jamie Thomas, bod Kobe Bryant yn ddylanwad mawr ar bobl ifanc sy’n chwarae’r gêm ar draws y byd.

“Wrth gwrs, roedd yn athletwr anhygoel, ond roedd ei agosatrwydd a’i ddylanwad ar bobl ar draws y byd chwaraeon yn anhygoel,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yn cynrychioli llawer mwy na dim ond y sgiliau ar y cwrt, roedd ei werthoedd ar y cwrt ac oddi ar y cwrt yn rhywbeth i’w edmygu.”

Dywedodd Jamie Thomas mai gwylio Kobe Bryant yn chwarae tra roedd yn blentyn oedd un o’r prif resymau y dechreuodd chwarae pêl fasged.

Bu’n ddigon ffodus i wylio ei arwr yn chwarae ar ddau achlysur gwahanol, gan gynnwys mewn gem gyfeillgar yn erbyn y Deyrnas Unedig cyn y gemau Olympaidd 2012, atgofion bydd yn “trysori am byth.”