Geraint Thomas
Mae seiclwr gorau Cymru, Geraint Thomas wedi cadarnhau y bydd yn methu’r Tour de France blwyddyn nesaf er mwyn canolbwyntio ar y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Y Tour de France yw ras fwyaf y byd seiclo, ac fe gafodd y Cymro ras dda eleni gan orffen yn safle rhif 31 yn y diwedd.

Bydd le Tour yn gorffen ar 22 Gorffennaf y flwyddyn nesaf, sy’n gadael llai na phythefnos o egwyl cyn i rowndiau rhagbrofol y Gemau Olympaidd ddechrau yn Llundain.

Gemau Olympaidd yw’r prif nod

Fe awgrymodd Thomas ym mis Gorffennaf bod posibilrwydd y byddai’n rhaid iddo aberthu’r Tour de France, ond mae bellach wedi cadarnhau hynny.

“Yr Olympics ydy’r prif nod i mi felly tydw i ddim eisiau bygwth hynny mewn unrhyw fodd,” meddai Thomas wrth y BBC.

“Mae reidio’r tour yn fwy o gambl. Fe allen i fod yn mynd yn dda ond gallen i hefyd orffen ar fy mhengliniau ac yn flinedig iawn.”

Dywedodd y Cymro ei fod yn bwriadu cystadlu yn y Giro D’Italia fel rhan o’i baratoad ar gyfer y Gemau Olympaidd.

“Rwy am baratoi mewn ffordd debyg i’r hyn y gwnes i cyn Beijing pryd nes i reidio’r Giro a ddim y tour,” meddai Thomas.

“Bydd hynny’n sicrhau fy mod i wedi gweithio ar gyfer ras tair wythnos ond gan roi amser i mi addasu nôl i rasio trac hefyd a rhoi pob cyfle i mi fod yn y tîm.”