Fe allai Brett Johns golli ei le yn yr UFC, haen ucha’r crefftau ymladd cymysg, oni bai ei fod e’n curo Tony Gravely yng Ngogledd Carolina heno (nos Sadwrn, Ionawr 25).

Dydy’r Cymro Cymraeg 27 oed o Bontarddulais ddim wedi ymladd ers iddo golli dwy ornest cyn anafu ei ben-glin yn 2018.

Mae ei wrthwynebydd diweddaraf wedi ennill ei saith gornest flaenorol.

Dyma ornest gyntaf Brett Johns ers Awst 2018, pan gollodd yn erbyn Pedro Munhoz – ei ail golled o’r bron.

Ar ôl cael seibiant, fe deithiodd i’r Unol Daleithiau er mwyn ymweld ag Athrofa Berfformiad yr UFC yn Las Vegas.

“Pan es i yno, dw i’n credu bo fi mewn lle drwg yn isymwybodol,” meddai wrth yr MMA Junkie.

“Ro’n i’n siomedig iawn, iawn i fod yn y lle drwg hwnnw.

“Dw i’n foi sy’n caru’r gamp ond roedd hi’n job o waith o ddechrau 2018 hyd at ganol 2019.

“Dw i wedi bod yn y gamp ers amser hir iawn, cofiwch.

“Mae pawb yn diflasu ar eu swydd o bryd i’w gilydd, ac fe es i i’r lle tywyll hwnnw.

“Ar ôl dod nôl o Vegas, dw i’n credu bo fi’n agos iawn at roi’r gorau i ymladd.”