Y Cymro Wayne Warren yw pencampwr dartiau BDO y byd – y chwaraewr hynaf erioed i ennill y gystadleuaeth.

Fe gurodd y chwaraewr 57 oed o Gwm Rhondda ei gydwladwr Jim Williams o Lanandras o saith set i bedair.

Roedd Wayne Warren ar ei hôl hi o 2-0 ond fe aeth ar y blaen o 3-2 cyn i Jim Williams unioni’r sgôr.

Enillon nhw set arall yr un i’w gwneud hi’n 4-4 ond enillodd Wayne Warren dair set ola’r ornest i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Dyma’r tro cyntaf i’r naill a’r llall gyrraedd y rownd derfynol.