Fydd tîm pêl-droed Americanaidd y New England Patriots ddim yn cystadlu yn y Super Bowl am y pedwerydd tro yn olynol, ar ôl colli o 20-13 yn erbyn y Tennesse Titans.

Roedd disgwyl i’r pencampwyr barhau i ddominyddu’r gamp, ond fe wnaeth y Titans achosi sioc wrth gipio’r fuddugoliaeth.

Enillodd Derrick Henry gyfanswm o 182 o lathenni o fantais a llwyddo i dirio’r bêl wrth i amddiffyn y Titans lwyddo i dawelu’r chwarterwr Tom Brady.

Mae ei ddyfodol yntau bellach yn y fantol yn dilyn y golled.

Mae’n awyddus i barhau i chwarae, ond mae ei gytundeb wedi dod i ben.

Yn y gêm arall, fe gurodd y Texans y Buffalo Bills o 22-19 mewn amser ychwanegol.