Mae’r bocsiwr o’r Unol Daleithiau, Patrick Day, wedi marw yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl iddo gael anaf i’w ymennydd wrth focsio yn erbyn Charles Conwell.

Cafodd ei roi mewn coma ddydd Sadwrn (Hydref 12) ar ôl cael ei daro’n anymwybodol yn 10fed rownd yr ornest yn Chicago.

Yn ôl ei hyrwyddwr Lou DiBella roedd “ei deulu, ffrindiau ac aelodau ei dîm bocsio gydag e pan fu farw.”