Mae disgwyl i Nigel Benn, cyn-bencampwr bocsio’r byd sydd bellach yn 55 oed, ddychwelyd i’r cylch eto.

Dydy cyn-bencampwr y byd pwysau canol a phwysau goruwch-ganol ddim wedi ymladd yn broffesiynol ers 23 o flynyddoedd.

Ond fe fydd e’n cynnal cynhadledd i’r wasg yfory (dydd Iau, Medi 26), lle mae disgwyl iddo gyhoeddi ei fod am ymladd eto ar Dachwedd 23.

Mae ei hyrwyddwr Mark Peters yn dweud mai fe yw’r “person 55 oed mwyaf ffit ar wyneb y Ddaear”.

Mae’n debyg ei fod e’n ymarfer ddwywaith y dydd o hyd.

Fe fydd y drwydded ar gyfer yr ornest yn dod gan Awdurdod Bocsio Prydain ac Iwerddon (BIBA) yn hytrach na Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain (BBBC).