Mae’r seiclwr Geraint Thomas wedi tynnu’n ôl o ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaeth Ffordd y Byd yn Swydd Efrog.

Mae’n dweud ei fod e’n teimlo nad yw e ar ei orau.

Roedd disgwyl iddo fe gystadlu yn y ras rhwng Northallerton a Harrogate ddydd Mercher.

“Dw i wedi trio dod yn ôl ar fy ngorau ar ôl cael seibiant ar ôl y Tour [de France] ond yn anffodus, dw i ddim yn teimlo mewn cyflwr digon da i berfformiad ar fy ngorau,” meddai.

“Felly cafodd y penderfyniad ei wneud gyda fy hyfforddwr a Matt Brammeier yn Seiclo Prydain i hepgor y TT ac ymrwymo i’r tîm ar gyfer y ras ar y ffordd.”

Ymateb

“Tra ei fod yn destun siom fod Geraint yn tynnu’n ôl o’r ras yn erbyn y cloc, rydym yn deall ac yn cefnogi ei benderfyniad,” meddai Stephen Park, cyfarwyddwr perfformiad tîm Prydain.

“Bydd Geraint yn cynrychioli Prydain yn y ras ar y ffordd lle bydd e’n gaffaeliad i’r tîm.”

Bydd Geraint Thomas yn cystadlu yn y ras ar y ffordd ddydd Sul (Medi 22) – ras sy’n mynd o Leeds i Harrogate, pellter o 285km.

Hefyd yn y tîm mae Owain Doull.