Mae’r Cymro Matt Edwards yn bencampwr dwbl Pencampwriaeth Rali Prydain yn dilyn ei fuddugoliaeth ym mryniau’r Alban ddoe (dydd Sadwrn, Medi 14).

Daw ei fuddugoliaeth ddiweddaraf ar ôl iddo ennill y bencampwriaeth yng Nghymru y llynedd.

Roedd miloedd o bobol ar strydoedd de’r Alban i wylio penllanw’r gystadleuaeth, wrth i’r Cymro geisio gorffen yn seithfed neu’n uwch er mwyn cipio’r teitl am yr ail waith yn olynol.

Fe yw’r pencampwr dwbl cyntaf ers Keith Cronin yn 2009-10.

“Es i i mewn i’r cymal olaf gan deimlo fy mod i am iddo fod ar ben, ac roedd yn ddigwyddiad anodd i ni yrru ynddo, gan fod angen i ni sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y llinell derfyn,” meddai.

“Mae M-Sport, Patrick [Walsh, ei gyd-yrrwr] a’r tîm cyfan wedi gwneud popeth yn berffaith i fi ac mae cael clymu popeth ynghyd unwaith eto’n deimlad melys.

“Gobeithio bod Tom [Cave, ei brif wrthwynebydd] yn derbyn hyn fel compliment, ond mae ei guro fe eleni’n beth arbennig iawn ac roedd cael mwynhau’r frwydr hir y tymor hwn yn wych i’r bencampwriaeth, a dw i wrth fy modd o gael curo’i gyflymdra fe.

“Mae’n beth anhygoel!”