Mae Geraint Thomas wedi dioddef cryn ergyd i’w obeithion o ennill ras feics Tour de France am yr ail flwyddyn yn olynol, wrth golli amser ar lethrau’r Tourmalet.

Cafodd y Cymro ei adael ar ôl tua diwedd y pedwerydd cymal ar ddeg, wrth deithio pellter o 117.5km o Tarbes.

Thibaut Pinot gipiodd y fuddugoliaeth ar ddiwedd y cymal, gyda Julian Alaphilippe, prif wrthwynebydd y Cymro, yn gorffen yn ail i ymestyn ei fantais yn y crys melyn.

Mae Geraint Thomas ddwy funud a dwy eiliad y tu ôl i’r arweinydd erbyn hyn, ac fe gyfaddefodd ar ddiwedd y cymal ei fod e’n teimlo’n “wan”, gydag awgrym ei fod e’n sâl.