Mae rheolwr tîm rhedeg mynydd Cymru yn credu y gallai record amser Ras yr Wyddfa gael ei thorri heddiw, gyda mwy o ysgogiad i redwyr gymryd rhan nag erioed o’r blaen.
Am y tro cyntaf erioed, mae’r ras yn rhan o gyfres fawreddog Cwpan y Byd Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd, a fydd yn denu rhedwyr o bob cwr o’r byd i Lanberis.
Mae disgwyl i 670 o redwyr ddechrau’r ras, a bydd modd gwylio’r uchafbwyntiau ar S4C ddydd Sul (Gorffennaf 21).
Awr a dwy funud yw’r record ar gyfer y ras ar hyn o bryd, a gafodd ei gosod gan yr Albanwr Kenny Stuart yn 1985.
“Mae’r llwybr wedi cael ei newid ac mae’r tir wedi newid dros y blynyddoedd, ond rwy’n credu ei bod hi’n bosib i dorri’r record,” meddai Peter Ryder, sydd wedi rhedeg y ras saith gwaith.
“Ond i wneud hynny, mae angen cyfuniad o bethau i ddigwydd o’ch plaid chi, o ran y tywydd, y tîr a’r llwybrau.
“Roedd Kenny Stuart yn gallu rhedeg marathon mewn 2 awr, 12 munud, sy’n adrodd cyfrolau amdano fel rhedwr. Dyna pam mai e sydd dal gyda’r record.”
Enillwyd ras dynion y llynedd gan yr Eidalwr, Alberto Vender, mewn awr, chwe munud, 41 eiliad, tra aeth teitl y merched i’r Gymraes, Bronwen Jenkinson, mewn amser o 1.20.41.
“Dyma’r brif ras mynydd yng Nghymru ac mae’r awyrgylch yn wych,” ychwanega Peter Ryder.
“Eleni, fel digwyddiad Cwpan y Byd, bydd yn well fyth. Mae’n hynod o boblogaidd ond mae’n hynod o anodd hefyd.”