Mae Geraint Thomas wedi dechrau seiclo cymal rhif 11 yn y Tour de France, lle bydd y Cymro’n gobeithio neidio o’r ail safle i’r brig.

Fe fydd y seiclwyr yn rasio ar drac 167km o Albi i Toulouse, sydd â dwy ddringfa serth ar yr hanner cyntaf a llawer o fryniau ar y ffordd.

Mae’r llwybr yn un gwastad iawn o’i gymharu â dringfeydd y Pyrenees a’r Alpau sydd i ddod, a bydd disgwyl i lawer o sbrintwyr y ras ennill eiliadau.

Ar ôl llwyddo i gyrraedd yr ail safle yn dilyn diwrnod dramatig yn y degfed cymal yn Albi, fe fydd Geraint Thomas â’i lygad ar grys melyn Julian Alaphilippe yn y safle cyntaf.

Roedd y Cymro a’i gyd-aelod yn nhîm Ineos, Egan Bernal, ymhlith y seiclwyr a achubodd y blaen ar rai o’u cyd-gystadleuwyr a gafodd eu dal mewn grŵp a gollodd 100 eiliad.

Ar hyn o bryd, mae Geraint Thomas 72 eiliad y tu ôl i Julian Alaphilippe, a phedair eiliad o flaen Egan Bernal sydd yn y trydydd safle.