Y seiclwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, yw’r ffefryn ymhlith y bwcis i ennill y Tour de France eleni – o drwch blewyn.

Bydd y Cymro yn arwain Tîm Ineos ar gychwyn y ras yn y Grand Depart yng Ngwlad Belg y penwythnos hwn.

Fe fydd wedyn yn treulio’r tair wythnos nesaf yn seiclo tua 3,500km wrth iddo geisio ailadrodd ei gamp y llynedd pan enillodd y Tour, yr unig Gymro erioed i wneud hynny.

Mae cwmni betio OddsMonkey wedi gosod Geraint Thomas ar 2/1, ond yn dynn ar ei sodlau mae aelod arall o Dîm Ineos, Egan Bernal, sydd ar 5/2.

Darogan

Yn ôl OddsMonkey, mae’r rhai sy’n cael eu nodi’n ffefrynnau i ennill cyn y gystadleuaeth fynychaf yn gwneud yn dda iawn.

Mae saith o’r 10 enillydd diwethaf wedi bod yn ffefrynnau cyn y ras, medden nhw..

“Fe greoedd [Geraint] Thomas sioc enfawr y llynedd, ond gydag unigolion fel Chris Froome a Tom Dumoulin ar goll, mae ganddo siawns da iawn i ennill eto,” meddai llefarydd ar ran OddsMonkey.

“Ond mae’r bwcis wedi ei osod ar y blaen o drwch blewyn i’w gyd-aelod yn Nhîm Ineos, Egan Bernal – sydd â siawns dda o ennill.”

Y ffefrynnau

Dyma’r rhestr lawn o’r ffefrynnau, yn ôl OddsMonkey:

  • Geraint Thomas – 2/1
  • Egan Bernal – 5/2
  • Jakob Fuglsang – 9/2
  • Adam Yates – 11/1
  • Nairo Quintana – 14/1
  • Richie Porte – 16/1