Mae athletwyr o Gymru wedi cael llwyddiant yng Ngemau Ewrop ym mhrifddinas Belarws.

Enillodd Jess Roberts a Megan Barker y fedal aur yng nghystadleuaeth seiclo’r madison i ferched yn Minsk.

Dyma’u hail fedal yn y Gemau, ar ôl iddyn nhw gipio’r fedal arian yn y gystadleuaeth cwrso fel pedwarawd gyda Josie Knight a Jenny Holl.

Daeth eu llwyddiant ar ôl i Lauren Price gipio’r fedal aur yng nghategori 75kg y bocsio.

Daeth Jess Roberts o fewn trwch blewyn i fedal efydd yn yr omniwm hefyd.