Cipiodd Lizzie Deignan dlws Taith y Merched yn y ras feics a ddaeth i ben gyda chymal rhwng Caerfyrddin a Phen-bre.

Dyma’r fuddugoliaeth leiaf yn hanes y daith, wrth iddi guro Katarzyna Niewiadoma o ddim ond dau eiliad.

Roedd Lizzie Deignan yn wythfed yn y cymal olaf, ac roedd hi’n gwisgo’r crys gwyrdd wrth i’r ras ddirwyn i ben.

Dyma’i buddugoliaeth gyntaf ers iddi ddechrau rasio eto ar ôl cyfnod mamolaeth.

Hi hefyd yw’r ferch gyntaf i ennill y ras ddwywaith, gan ychwanegu at ei llwyddiant yn 2016.

‘Penderfyniad’

“Mae’n golygu cryn dipyn,” meddai ar ddiwedd y ras.

“Dw i’n credu ’mod i ymhlith y ffefrynnau i ennill y ras y tro diwethaf i fi ddod yma a’r tro hwn, do’n i ddim yn ffefryn, felly roedd yn brofiad gwahanol.

“Penderfyniad oedd e.

“Dw i i ffwrdd o’m merch fach am reswm, dw i yma i wneud jobyn o waith.

“Mae gyda fi dîm gwych o’m cwmpas nad o’n i eisiau eu siomi.”

Llwyddiant y ras

Roedd y ras yn llwyddiant ysgubol i’r ardal, yn ôl y cyngor sir.

Roedd miloedd o bobol ar y strydoedd i wylio’r ras yn tynnu tua’i therfyn ar ôl i’r cystadleuwyr fod yn cystadlu dros bellter o 79 milltir drwy Sir Gaerfyrddin.

Roedd merched gorau’r byd seiclo’n cystadlu ar ddringfeydd ar ôl dechrau yn felodrôm y dref, a chroesi’r Mynydd Du.

“Mae wedi bod yn bleser i ni gynnal Grande Finale Taith Merched OVO Energy yma yn Sir Gaerfyrddin, a hynny ychydig fisoedd yn unig ar ôl cynnal Grand Depart Taith Prydain OVO Energy ym mis Medi,” meddai Emlyn Dole, arweinydd y cyngor sir.

“Mae hwn yn gyfle unigryw i ni arddangos ein tirwedd a’n golygfeydd trawiadol sydd yn sicr wedi creu un o’r cymalau mwyaf heriol i’r beicwyr yn y ras eleni, ond sydd wedi mynd drwy rai o’n hardaloedd mynyddig a’n dyffrynnoedd mwyaf godidog ac, wrth gwrs, drwy ein cymunedau gwych.

“Mae cynnal digwyddiadau mawr fel hyn mor bwysig i Sir Gaerfyrddin, o ran economi’r sir ac o ran adeiladu ar ei henw da cynyddol ar y llwyfan rhyngwladol.

“Rwy’n falch iawn o’m tîm yng Nghyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi gweithio mor galed ochr yn ochr â SweetSpot Group i ddod â’r ras i Sir Gaerfyrddin, ond hefyd cefnogaeth pobl a busnesau sydd wedi creu awyrgylch gwych ac wedi rhoi croeso cynnes Cymreig i bawb sydd wedi dod i fwynhau’r diwrnod gyda ni.”

‘Cyfle perffaith’

“Mae Taith Merched OVO Energy wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae wedi bod yn gyfle perffaith i ni arddangos ein tirwedd a’n cyfleusterau beicio gorau,” meddai Peter Hughes Griffiths, sy’n aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Fel awdurdod lleol, rydym yn falch o’n buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a seilwaith i gefnogi’r brwdfrydedd cynyddol o ran beicio yr ydym yn gweithio mor galed i’w greu. Dechreuodd y ras heddiw yn Felodrom hanesyddol Caerfyrddin, sef y felodrom hynaf yn y byd, a daeth i ben ar ein Cylchffordd Gaeedig Genedlaethol bwrpasol ym Mharc Gwledig Pen-bre.

“Rydym yn arbennig o falch o Manon Lloyd (Drops), sy’n dod o Sir Gaerfyrddin ac a gychwynnodd ei gyrfa feicio gyda Towy Riders yng Nghaerfyrddin. Mae’n siŵr bod cystadlu gyda goreuon y byd yn ei sir enedigol yn deimlad gwych ac rwy’n gobeithio ei bod wedi teimlo cefnogaeth y dorf.”