Fe fydd Rali GB Cymru yn dechrau yn Lloegr eleni am y tro cyntaf yn hanes diweddar y digwyddiad

Mae’n un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain ac mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb i’w chynnal hi yma tan 2021.

Ond datgelwyd ddoe (Dydd Mercher, Mai 22) bod Rali GB Cymru 2019 yn dechrau Lerpwl yn yr Hydref, cyn parhau yn Llandudno a Chaer.

Dyma ugeinfed gwaith i’r digwyddiad gael ei gynnal ers iddo symud i Gymru ar ddechrau’r mileniwm, ac fel arfer mae hi’n cael ei chynnal yn nhref Llandudno o’r dechrau.

“Bydd y Rali yn cychwyn dros y ffin yn Lloegr bnawn dydd Iau (Hydref 3), gyda’i Seremoni Cychwyn yn adleoli i Lan y Dŵr yn Lerpwl, gan rannu Pencampwriaeth Rali’r Byd gyda chynulleidfa hyd yn oed mwy eang,”meddai datganiad Rali GB Cymru

“Ehangu’r dalgylch”

Fe fydd cymal o’r ras hefyd yn cael ei chynnal dros y ffin ar drac rasio Caer, Oulton Parc.

“Dyma’r tro cyntaf i Oulton Park gynnal Pencampwriaeth Rali’r Byd am fwy na 25 mlynedd, ac fel Lerpwl, mae ei leoliad hawdd i’w gyrraedd yn bendant am ddenu tyrfa anferthol,” meddai’r datganiad.

Mantais hyn yw “ehangu’r dalgylch o safbwynt faint sy’n gwylio’r rali,” meddai llefarydd Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Mae’n gyfle i Gymru hyrwyddo ei hun i farchnadoedd targed pwysig yn ardaloedd Manceinion a Lerpwl.

“Mae’r digwyddiad wedi dangos Cymru i’r miloedd lawer o ymwelwyr sydd wedi dod yma o bob rhan o wledydd Prydain dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r miliynau sy’n gwylio’r darllediad ym mhob cwr o’r byd.”

“Cartref i’r rali”

Yn ôl Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, “mae Rali Cymru GB wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac mae’r canolbarth, gogledd a de Cymru wedi bod yn gartref i’r rali.”

“Mae’r digwyddiad wedi arddangos Cymru i’r miloedd lawer o ymwelwyr sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad a’r miliynau lawer sydd wedi gwylio’r digwyddiad yn cael ei ddarlledu ledled y byd.

Mae adroddiadau diweddar yn son bod trafodaethau wedi bod rhwng y trefnwyr, Motorsport UK, a Gogledd Iwerddon hefyd ynglŷn â chynnal y rali yno yn 2020.

Yn draddodiadol roedd y rali yn ymweld â gwahanol rannau o wledydd Prydain ac ar hyn o bryd mae’n cael ei alw yn Rali GB Cymru oherwydd mai Cymru yw’r noddwr.