Mae’r Gymraes, Jade Jones, wedi llwyddo i ddod yn bencampwraig tae kwondo y byd, trwy gipio’r fedal aur yn ninas Manceinion neithiwr (nos Sadwrn, Mai 18).

Fe lwyddodd i drechu ei gwrthwynebwraig, Lee Ah-reum, o 14-7. Mae hi eisoes wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd.

Ond roedd wedi cael ei churo gan yr un gwrthwynebydd yn rownd gyn-derfynol pencampwriaeth y byd ddwy flynedd yn ôl… nes iddi eleni, o’r diwedd, yn 26 oed, gyrraedd ei nod.

“Mae yna adegau wedi bod pan dw i wedi amau fy ngallu fy hun,” meddai wrth siarad gyda’r wasg a’r cyfryngau wedi’r fuddugoliaeth.

“Ond rŵan, mi fedra’ i fynd i gysgu yn y nos yn gwybod fy mod wedi ennill pencampwriaeth y byd. Mi fedra’ i ymddeol gan wybod fy  mod i wedi cyrraedd y top.”fans.