Mae Mark Williams yn dweud mai David Gilbert oedd “y chwaraewr gorau”, ar ôl i’r Sais ei guro o 13-9 ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Daeth y golled drannoeth ymweliad â’r ysbyty ar ôl i’r Cymro, sy’n bencampwr y byd, fod yn dioddef o boenau yn ei frest ddydd Gwener (Ebrill 26).

“Fe oedd y chwaraewr gorau,” meddai’r Cymro wrth Eurosport ar ddiwedd y gêm.

“Wnes i chwarae sut dw i’n teimlo, yn ofnadwy.

“Wnes i drio ‘ngorau ond ro’n i ar ei hôl hi o bum ffrâm i dair ac ro’n i’n gwybod o hynny ymlaen na fyddwn i’n ennill.

“Wnes i drio ‘ngorau ac ennill naw ffrâm.”