Mae’r chwaraewr snwcer Mark Williams wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael poenau yn ei frest yn ystod Pencampwriaeth y Byd yn Sheffield.

Cafodd ei daro’n wael yn ystod ei ornest yn erbyn David Gilbert yn yr ail rownd ddoe (dydd Gwener, Ebrill 26) yn theatr y Crucible.

Postiodd y chwaraewr 44 oed o Went ar Twitter ei fod e mewn adran frys yn yr ysbyty ac nad oedd yn “gallu godde’r boen rhagor”.

Daeth neges arall yn ddiweddarach yn dweud bod y meddygon yn “hyderus nad yw’n ymwneud â’r galon”, a’i fod yn aros i gael profion pellach.

Roedd e ar ei hôl hi o bum ffrâm i dair pan ddaeth y sesiwn i ben.

Mae disgwyl i’r ornest ail-ddechrau heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27).