Mae Tiger Woods wedi diolch i’w gefnogwyr yn dilyn ei lwyddiant yng nghystadleuaeth y Meistri.

Dyma’r pumed tro i’r chwaraewr golff, 43, ennill y Siaced Werdd, a’i fuddugoliaeth fawr gyntaf mewn 11 mlynedd.

Daw hefyd ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd a phersonol, gyda rhai yn y byd chwaraeon yn credu na fyddai’n dychwelyd i lefel uchaf y byd golff eto.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn Augusta National, fe rannodd Tiger Woods lun o’i hun yn dal y cwpan ac yn gwisgo’r Siaced Werdd, gan ddweud: “Fedrai ddim diolch digon i fy nheulu, fy ffrindiau a’m cefnogwyr am eu cefnogaeth.

“Mae cael fy nheulu wrth fy ochor heddiw yn rhywbeth na fydda i’n ei anghofio byth…”