Mae’r Cymro Ian Woosnam yn dweud na fydd e’n chwarae yng nghystadleuaeth y Meistri eto, ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad am yr ail waith.

Rhoddodd y gorau i chwarae am gyfnod yn 2016, cyn gwneud tro pedol yn ddiweddarach.

Sgoriodd e 80 a 76 yr wythnos hon, gan orffen ddeuddeg ergyd yn waeth na’r safon, a cholli’r cyfle i fynd yn ei flaen am yr ail dro ar bymtheg mewn 18 o gynigion yn y Meistri.

Mae’r Cymro 61 oed, oedd wedi ennill y Meistri yn 1991, yn dioddef o gyflwr yn ei gefn ac fe roddodd y gorau iddi ar ôl chwarae yn Augusta yn 2016.

“Mae’n drueni oherwydd dw i’n teimlo fy mod i’n chwarae’n dda o hyd, ond pan ydych chi’n cerdded yr holl ffordd o gwmpas gyda chefn tost, mae’n cymryd eich egni oddi arnoch chi,” meddai.

“Fe fu’n bleser bod yma, bod yn bencampwr, a dw i’n edrych ymlaen at ddod yma am flynyddoedd lawer eto.”

Mae’n dweud y bydd yn cael sgan ar ei gefn yn y dyfodol agos, ond nad yw’r sefyllfa wedi newid ers 30 o flynyddoedd.