Roedd siom i Elfyn Evans yng nghymal olaf rali Tour de Corse, wrth iddo gael pynjar wrth glosio at y fuddugoliaeth.

Roedd ganddo fe flaenoriaeth o 11 eiliad cyn dechrau’r cymal olaf, ond fe gollodd yn y pen draw i Thierry Neuville o Wlad Belg, oedd yn ail ar ddechrau’r cymal.

Fe gollodd fwy na munud oherwydd y pynjar, a gorffen yn drydydd ar y cyfan.

Mae’r canlyniad yn golygu mai Thierry Neuville sydd ar frig y bencampwriaeth, ddau bwynt ar y blaen i Sebastien Ogier.