Mae Elfyn Evans ar drothwy buddugoliaeth fawr yn rali Tour de Corse ar ynys Corsica.

Mae gan y Cymro flaenoriaeth o 11 eiliad ar ddechrau’r cymal olaf heddiw (dydd Sul, Mawrth 31).

3:12:41.7 yw ei amser e a’i gyd-yrrwr Scott Martin.

Thierry Neuville a Nicolas Gilsoul o Wlad Belg sy’n ail gydag amser o 3:12:53.2 hyd yn hyn.