Fe fydd y Cymro Ryan Day yn herio Ronnie O’Sullivan heddiw (dydd Iau, Ionawr 17) yn rownd wyth olaf cystadleuaeth Meistri Snwcer Prydain yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Bydd yr ornest yn dechrau am 1 o’r gloch, gyda’r cyntaf i 11 ffrâm yn cael lle yn y rownd gyn-derfynol.

Llwyddodd Ryan Day i guro’r Albanwr John Higgins o chwe ffrâm i bump yn y rownd flaenorol, tra bod Ronnie O’Sullivan wedi trechu’r Sais Stuart Bingham o chwe ffrâm i ddwy.

Mae’r Cymro arall, Mark Williams eisoes allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli o chwe ffrâm i dair yn erbyn yr Awstraliad Neil Robertson.