Andy Murray yn bwriadu ymddeol oherwydd anaf i’w glun
Diweddarwyd am
Mae’r chwaraewr tenis Andy Murray wedi dweud ei fod yn bwriadu ymddeol ar ôl Wimbledon oherwydd anaf i’w glun.
Mewn cynhadledd newyddion emosiynol, dywedodd Andy Murray, 31, nad oedd yn rhagweld y gallai “chwarae drwy’r boen am bedwar neu bum mis arall.”
Ychwanegodd y gallai Pencampwriaeth Agored Awstralia wythnos nesaf fod ei dwrnamaint olaf a’i fod wedi bod mewn poen ers tua 20 mis.
“Dw i wedi gwneud bron popeth alla’i i drio gwneud i’r glun wella a dyw e ddim wedi helpu llawer. Dw i mewn lle gwell nag oeddwn i chwe mis yn ôl ond dw i dal mewn llawer o boen. Mae wedi bod yn galed.”
Ei fwriad, meddai, oedd dod a diwedd i’w yrfa tenis yn Wimbledon “ond dw i ddim yn siŵr a fydda’i yn gallu gwneud hynny.”
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.