Roedd sioc ym Mhencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 21), wrth i’r Cymro Gerwyn Price fynd allan o’r gystadleuaeth.

Roedd y Cymro ar y blaen o ddwy set yn yr Alexandra Palace yn Llundain cyn ildio’i fantais i’r Sais Nathan Aspinall.

Ond fe ddaeth o fewn un tafliad o gipio’r fuddugoliaeth cyn chwalu’n llwyr, a cholli chwe gêm allan o’r saith olaf.