Mae’r Cymro Osian Pryce wedi gorffen yn ail yn ras geir y Rallye Ciudad de Granada, ar ôl ennill tri chymal.

Cafodd ei gar ei gynhyrchu gan gwmni ASM Motorsport yn Barcelona, ac fe ddangosodd ei allu o’r dechrau’n deg, wrth i Osian Pryce a’i gyd-yrrwr Dale Furniss fanteisio ar y car a’r amodau i fynd am y fuddugoliaeth.

Ar ôl cymal ar strydoedd Granada nos Wener, gyrru ar y graean oedd yr her dros wyth cymal ddydd Sadwrn.

Gorffennodd Osian Pryce yn drydydd yn y cymal cyntaf mewn tywydd gwlyb.

Yn y pen draw, roedd 52.5 eiliad rhyngddo fe a’i bartner Dale Furniss, a Xevi Pons a Rodrigo Sanjuan.

‘Allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy’

“Wnes i fwynhau gyrru’r car R4 ac o safbwynt y perfformiad a’r canlyniad, allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy,” meddai Osian Pryce.

“Wnaethon ni dri rhediad yn unig dros y cymal arbrofol ond yn syth, roedd y car yn teimlo’n dda ac yn hawdd i’w yrru, a wnaethon ni ddim newidiadau o gwbl cyn y dechrau.

“Roedden ni braidd yn ofalus dros y cymal cyntaf ar y graean, roedd hi’n damp ac roedden ni’n gwybod fod gyda ni job o waith i’w wneud, ond fe lwyddon ni i gael y trydydd amser cyflymaf!

“Wnaeth e sychu allan wedyn, ac roedd heolydd syth ar rai o’r cymalau lle’r oedd pwer yn fantais fawr, ond lle collon ni allan ar gyflymdra… roedden ni ar ein hennill yn y darnau tynn a throellog.”