Roedd y Gymraes Elinor Barker yn aelod o dîm seiclo Prydain a gipiodd fedal aur yn y ras gwrso ar y diwrnod cyntaf yng Nghwpan y Byd y Trac yng Nghanada.

Fe guron nhw’r Eidal yn y rownd derfynol yn Milton.

Laura Kenny, Katie Archibald ac Ellie Dickinson oedd aelodau eraill y tîm.